MySpace
myspace music


Cowbois Rhos Botwnnog



Last Updated: 11/18/2009

Send Message
Instant Message
Email to a Friend
Subscribe

Status: Single
City: Rhos Botwnnog
Country: UK
Signup Date: 3/20/2006

Blog Archive
[Older      Newer]
 /  / 
Monday, September 10, 2007 

Pnawn da orllewinwyr mwyn, heb sgwennu blog ers tro byd a meddwl bysa gwell neud. Ar ôl bod yn gigio'n galed dros yr ha' dani am ddychwelyd i'r sdiwdio yn fuan.

Mi fyddan yn rhyddhau sengl hefo Gwyneth Glyn o'r enw Paid a Deud, hen gan draddodiadol Gymraeg. Mi fydd fel Love Hurts gymraeg pe gweithith yn iawn, hefo fersiynna newydd o ddwy gan (un o'n caneuon ni, a un o rai Gwyneth) fel b-sides. Wnawni ddim rhoi dyddiad, dani wedi dysgu'n gwers hefo'r albym gynta.

Ma caneuon yr ail albym bron iawn yn barod 'fyd, hefo Edgar a minnau yn rhannu'r baich 'sgwennu. Dani ddim am gigio'r caneuon newydd 'ma tan i'r albym gael ei ryddhau, a dani heb eu dysgu nhw fel band eto chwaith, felly sgynani'm syniad sud albym fydd hi a dwi'n edrach mlaen i ffeindio allan. Un peth sy'n sicr, mi fydd hi'n fwy o alt-country na'r gynta.

Ma'n od gweld sud ma'r lebal "canu-gwlad" wedi sdicio arna ni, peth da i ni achos da ni di cal lot fwy o sylw gan y cyfrynga o'i achos o, ond mai'n anodd iawn gwrando ar yr albym gynta na a perswadio dy hun na canu gwlad ydi be dani fel band yn ganu. Ma na ryw amball i gyffyrddiad wrth gwrs, ond ma dylanwada roc-a-rol a pync yr un mor amlwg amwni, er hynny ma pawb yn ein disgrifio ni fel canu-gwlad. Pyblisiti sdynt da ar ein rhan, erbyn hyn yr unig bobol sydd wedi sylwi ydi John ag Alun.

P'runbynnag, mi fydd yr albym newydd yn newid hynny a mi fydd, dwi'n meddwl, yn albym o ganu gwlad amgen. A dwi'n edrach ymlaen yn ofnadwy.

Twm Colt, xxx 

Tuesday, April 03, 2007 

Henffych orllewinwyr mwyn,

Wedi hen aros mae'r albym yn barod ac ar fin cael ei rhyddhau, dyna ryddhad! Mae'r gwaith celf a phob dim yn barod, ag yn edrych yn dda hefyd. A mi fydd yna grysau-t Cowbois Rhos Botwnnog ar gael yn fuan mewn gigs.

Dwi wedi llwytho ychydig o draciau oddi ar yr albym i chi gael cyfle bach i wrando.

Noswaith dda,

Twm B. Colt

xxxxxxxxxxxxxxxxx

Sunday, March 25, 2007 

Bydd albym Cowbois Rhos Botwnnog allan yn y siopa ledled Cymru ar yr 16ed o Ebrill. Bydd hi hefyd ar werth ar daith Tafod 2.

 

Cowbois Rhos Botwnnog's album will be in the shops on the 16th of April. It will also be on sale in the Taith Tafod 2 gigs.

Sunday, March 25, 2007 

Cowbois ar Daith

 

Mae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn o gyhoeddi mai Cowbois Rhos Botwnnog fydd y prif fand ar ail Daith Tafod sydd i'w chynnal ym mis Ebrill. Bydd Yucatan a Mr Huw hefyd yn ymuno â nhw wrth iddynt ymweld â phob cwr o Gymru.

Hon fydd yr ail daith o'r fath i'w threfnu gan y Gymdeithas yn dilyn llwyddiant y gyntaf yn Nhachwedd 2006. Y bwriad yw cynnal gigs o safon ymhob rhan o'r wlad a chynyddu poblogrwydd y bandiau sy'n teithio yn y rhannau hynny.

Yn ogystal â pherfformio'n fyw yng ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru'n ddiweddar, enillodd Cowbois Rhos Botwnnog y wobr 'Grwp a Ddaeth i Amlygrwydd' ar y noson, yn ogystal â chael eu henwebu yng nghategori 'Sesiwn C2 y Flwyddyn'. Mae eu harddull unigryw o gerddoriaeth roc-gwledig wedi eu gwneud yn boblogaidd iawn gyda dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg a dywedodd cydlynydd Taith Tafod, Owain Schiavone, "maen nhw eisoes yn un o fandiau newydd mwyaf poblogaidd Cymru felly rydym ni am geisio adeiladu ar hyn a'u helpu i gyrraedd y lefel nesaf. Mae ganddyn nhw hefyd albwm ar y gweill felly gobeithio bydd y daith yn gymorth i hyrwyddo hwnnw".

Mae Yucatan hefyd yn gobeithio rhyddhau albwm cyntaf y band ym mis Mai wedi i draciau promo dderbyn tipyn o airplay gan swyno gwrandawyr. Dywedodd Schiavone, "mae cerddoriaeth Yucatan yn wirioneddol hyfryd ac mae'r daith yn rhoi cyfle iddynt berfformio'n fwy ar lwyfan. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gael Mr Huw ar y daith hefyd gan ei fod ei gerddoriaeth mor glyfar a hwyliog – mae pawb yn licio Mr Huw."


Mae dau leoliad wedi eu hychwanegu at yr ail daith a bydd yn ymweld â Dinbych, Porthmadog, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd dros gyfnod o fis. Mae'r daith yn dechrau yng Nghlwb Rygbi Dinbych ar 12fed Ebrill ac yn dod i ben yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 4ydd o Fai.

 

Cowbois on Tour

 

The Cymdeithas yr Iaith(Welsh Language Society) Entertainment Team are pleased to announce that Cowbois Rhos Botwnnog will be headlining the second 'Taith Tafod' Tour in April. Also supporting them will beYucatan and Mr Huw as the tour visits every corner of Wales.

This will be the second tour of it's kind organised by the society following the success of the first held in November 2006. The aim is to hold quality gigs in every part of the country and build up the popularity of those bands who are touring.

On top of performing at the recent Radio Cymru Rock and Pop Awards, Cowbois Rhos Botwnnog claimed the 'Best Newcomers' award and were also nominated in the 'Best C2 Studio Session' award category. Their unique brand of country-rock music have made them popular amongst Welsh music fans and tour coordinator, Owain Schiavone, said "they are already one of the most popular new bands in Wales and we hope to build on that and take them on to the next level. They are also due to release an album so the tour will be a good opportunity to promote that release."  

Yucatan also hope to release their first album in May following the success of the promotional tracks they have released for radio airplay. Schiavone said "Yucatan's music is truly beautiful and this tour will give them more opportunity to perform live. We are also very pleased to have Mr Huw on board as his music is so clever and good fun – everyone loves Mr Huw."


Two extra locations have been added since the original tour as it visits Denbigh, Porthmadog, Bangor, Aberystwyth, Carmarthen and Cardiff over a months period. The tour kicks off in Denbigh Rugby Club on 12th April and draws to a close in Cardiff's Clwb Ifor Bach on 4th May.

Monday, August 28, 2006 

Reit, helo ers tro. Ma'r Cowbois wedi bod yn brysur drost yr haf. Nathoni chwara lot o gigs, a'r rei syn aros yn y cof ydi'r rei yn Sesiwn Fawr a sdeddfod. Diolch i pawb fuodd yn jeifio. Dani'n mynd i sdiwdio Dyl Mei wythnos yma i recordio'r albym, a fydd hi allan cyn 'dolig gobeithio. Gobeithio bo na lot fwy o gigs ar y gweill.

Cheers Mo Fo's and keep it real.

Dei

Wednesday, June 21, 2006 
http://lads.myspace.com/videos/vplayer.swf?u=YUhSMGNEb3ZMMk52Ym5SbGJuUXViVzkyYVdWekxtMTVjM0JoWTJVdVkyOXRMekF3TURnMU1EQXZOREF2TkRVdk9EVXdNRGsxTkRBMExtWnNkZz09&d=177" type="application/x-shockwave-flash" width="430" height="346">
Get this video and more at MySpace.comhttp://vids.myspace.com/index.cfm?fuseaction=vids.individual&videoid=850095404&n=2">MySpace.com>
Friday, March 31, 2006 

Pryd benderfynoch chi ffurfio band, a pham?

Twm Colt: Tua blwyddyn yn ôl, doedd y gwartheg ddim yn rhoi llawer o waith i ni ar y pryd.

Sut wnaethoch benderfynu ar enw? oedd yna anghytuno?

Twm Colt: Roedd yn ddewis amlwg a deud y gwir, gan ein bod yn trigo ar y rhos, a'n gowbois, 'thgwrs.

Dei Morlo: Dim anghytuno O GWBL!!

Pwy 'di pwy? A pha offeryn ma pawb yn ei chwarae?

Twm Colt: Dwi'n chwarae gitar, bass, mandolin, synth, harmonica a chanu. F'annwyl frawd Edgar Sgarled yn chwarae gitar, bass, canu a thamborin.

Dei Morlo: A dwi'n chwarae'r dryms a thriongl bedrochrog.

Disgrifiwch eich cerddoriaeth

Twm Colt: Hillbilly punk.

Pwy sy'n cyfansoddi'r caneuon? sut fyddwch chi'n mynd ati?

Twm colt: Ran amlaf fyddai'n sgwennu'r geiria' a'r chord chenjis, a wedyn gofyn i Dei ag Edgar sdicio drwm a bass yn y cefndir. Ma Edgar hefyd 'di sgwennu ambell i diwn.

Be sy'n dylanwadu'ch cerddoriaeth?

Twm Colt: Gram Parsons, Bob Dylan, Neil Young, Velvet Underground o ran cerddoriaeth. Bywyd ar y paith sy'n dylanwadu'r geiriau.

Dei Morlo: Slipknot...

Pa gig ydach chi 'di fwynhau fwyaf hyd yma?

Twm Colt: Yn Bar Blu, Pwllheli hefo Ryan Kift, Dan Amor a Mim Twm Llai. Gwisgwyd y llodrau lledr gorau ar gyfer y gig yna.

Lle fysa chi'n lecio chwarae?

Twm Colt: Y Rhos, 'threswm.

Dei Morlo: Parlwr gora Math William

Be ydi'ch uchelgais chi?

Twm Colt: Dwyn coron John ag Alun fel ymerawdwyr cyntri westyrn Cymru.

Dei Morlo: Gwneud bywoliaeth o hitio'r tybs.

Unrhyw gigs ar y gweill?

Twm Colt: Mai'n brysur hefo'r gwartheg ar y funud.

Be ydi'ch cynlluniau chi at y dyfodol?

Twm Colt: Gigio'n drylwyr.

Pwy sy'n cwyno fwyaf yn y band?

Twm Colt: Tydi brodyr ddim yn cwyno. They ain't heavy, blaw am Edgar.

Oes 'na rywun wasdad yn hwyr?

Twm Colt: Nagoes, gan ein bod yn yn cyd-fyw ar y Rhos, ond anodd yw trefnu ymarferion a gigs nawr fod Edgar wedi symud i'r ddinas fowr, wedi'i lygru gan y goleuadau llachar a'r merched drwg.

Os fysa chi'n cal person arall i ymuno a'r band, pwy fysa chi'n ddewis?

Twm Colt: Y pedwerydd brawd, Slit-Eye McGurk.

Dei Morlo: Stevie Wonder.

Yda chi wedi cael unrhyw brofiadau "embarassing"?

Twm Colt: Eshi'n sdyc yn fy llodrau pinc un tro, ond roedd hynny bacsdej.

Dei Morlo: Dwi'm yn coelio mewn embarasments.

Mi yda chi'n "hedleinio gig". Pwy fysa chi'n ddewis i'ch cefnogi? A phwy fysa chi'n lecio gefnogi?

Twm Colt: Eryr a Pala, ma Edgar angen y gwaith.

Dei Morlo: Garej Dolwen...

Be mae Sion Corn yn ddod i chi eleni?

Twm Colt: Banjo cywrain a hardd.

Dei Morlo: Clamp o ddrwm gwifren.

Be fysa'r anrheg gora yn y byd i gyd?

Twm Colt: Emyr Wyn, wedi'i lapio dan y goeden.

Dei Morlo: Cyrtans blodeuog. O Farchnad Pwllheli.

Be ydi'r peth gorau am Ddolig?

Twm Colt: Calendars adfent.

Dei Morlo: Cinio. Ond ma mins peis yn afiach, dylsent gael eu gwahardd.

Twm Colt: Anghytunaf.

 

Friday, March 24, 2006 

Darllediad o helynt y Cowbois yng nghadarnle'r Bandits ar gael ar wefan www.bandit247.com

'Chwaneg o lynia wedi postio ar y wefan yma hefyd.

Thursday, March 23, 2006 

Current mood:Gwancus

Noswaith dda, orllewinwyr mwyn,

Bu Dei ar ben to'r cwt heddiw ma hefo morthwl a llif ceisio ffidlan efo erial y telibocs ma, er mwyn dal darllediad Bandit o'r ddinas fowr ddu dach'weld. Wedi ychydig amcan waldio daeth llun i'r fei ar y sgrin fach dywyll.

"Bandits" ebe Twm yn filain.

"Llwytha'r wincherster a'th golts Twm" ebe Edgar yn ol.

Mi fyddani'n pacio'r wagon bore fory, am drip ar hyd y rhos a thraws y paith i Twnti, Rydyclafdy. Ceisiwch ein dal yno gyfeillion, mi fyddani'n rhy slic i chwi. Wedi rhoi 'chwaneg o lynia ar y webshite ma hefyd, fel tystiolaeth o'n bodolaeth.

Cariad mawr, Twm Colt, xxxxxxxxxxxx

 

Monday, March 20, 2006 

Current mood:  loved

Henffych gyfeillion,

Croeso i flog y cowbois, yma y mae pedair can i chwi. Yn anffodus nid yw y wefan hon wedi arfer a theitlau hirfaith y cowbois, felly gorfu talfyrio enwa ychydig o'r caneuon. Y teitlau llawn yw:


Y Cadfridog Cariad A'r Ehedwyr Pluog

Y Moch

Pressez Et Maintenez Mon Bouton (S'il Vous Plait)

Dawns Y Trychfilod

Yn gywir a chyda swsus llaethog, Twm Colt xxxx