Helo bawb - sori heb sgwennu ers sbel...wel fi ddim mor sori a 'ny
achos fi wedi body n cael amser gwych dros y mis diwethaf ar fy hols yn
Lanzarote ac yna I Brighton lle ges I amser ffab! Fi nawr yn Kareoke
Queen yn Costa Teguise ac yn browd iawn o'r teitl hynny - falle nai
fynd nol flwyddyn nesaf I neud siwr fod neb yn dwyn fy nghoron...
O'dd Brighton yn gret hefyd, byth wedi bod yno o'r blaen, a gyda'r
haul yn tywynnu a'r traeth mor hyfryd yn llawn bars a clybie ffynci,
ges I amser hollol wych!
Nes I hefyd ddarganfod bod gwyl Beachdown yn digwydd yno yn ystod
Mis Awst gyda Super Furry Animals yn headlinio! Ma'r wyl yn digwydd yn
Devil's Dyke yn Brighton ar Awst 22ain-25ain ac ma' Grace Jones ar dop
y rhestr o bobl sy'n chware hefyd, yn ogystal a The Zutons, St Etienne
a Grandmaster Flash! Fyddai'n sicr yn pacio fy mhabell bach a mynd draw
yno am benwythnos sy'n argoeli I fod yn WYCH!
Am fwy o wybodaeth ewch i,
Hefyd ma' na wyl wych yn digwydd yn Aberystwyth leni sef The Square
Festival, a hynny, Gorffennaf 24ain-26ain yn ardal Borth. Supergrass
sy'n headlinio fan hyn, ond os I chi wedi body n gwrando ar fy rhaglen
I fyddwch chi'n barod yn nabod y band sydd yn cefnogi nhw sef 'Peggy
Realoads'. Dwi wedi body n chware'r band yma sy'n dod o Garnant ger
Rhydaman ers misoedd bellach, ma' nhw'n hollol wych - ac os i chi'n
hoff o'ch roc uchel gyda melodiau gwych yna dyma'r band I chi. Y prif
leisydd, Twig yw'r boi oedd tu ol I'r remixes o gân Elin Fflur,'Swyn
Atgofion' a 'Disco Bitch' gan Iglw, sy'n aml yn cael ei chwarae ar C2
erbyn hyn.
I glywed mwy o gerddoriaeth y band yna ewch i,
Mi fydd band 'The Last Republic' o ardal Pontardawe yn chware yno
hefyd, ac ma' rhain hefyd yn fand hollol wych dwi wedi bod yn chware ar
y rhaglen. Os chi'n lico pobl fel Muse a Radiohead - dyma'r band I chi
-
Hefyd yn chware yno fydd Threatmantics, Racehorses a Masters in france!
Am fwy o wybodaeth am yr wyl yna ewch i
Wel 'na Gorffenaf a Awst yn sorted - ond beth am Mis Medi? Mis
PWYSICA'R flwyddyn oherwydd dyna mis fy mhenblwydd! Wel, ma'r gantores
Rhian Mostyn ar fy rhaglen i nos Wener ac ma' hi'n sôn am wyl Llanffest
ma' hi'n trefnu ar ei fferm hi yn Llanfairfechan ym Mangor ar Medi 5ed!
Mae'n debyg bydd Derwyddon Dr Gonzo a Mr Huw yno yngyd a lot o
artistiaid eraill! Am fwy o wybodaeth cofiwch checio gwefan C2 yn
rheolaidd I weld beth yw'r datblygiadau!
Ffili aros I fynd I BOPETH!!!
Nia xx