Noson wych yng Nghaerffili - cynulleidfa dwym galon yn barod i wrando ar y gerdoriaeth, peth hynod o brin. Rhys, boi lleol, yn dechre gyda set fach hyfryd iawn - yn enwedig y stwff offerynnol. Carwyn Fowler wedyn, gyda'i gynhesrwydd bachgenaidd, bochgoch, a'i ddawn aruthrol ar y delyn. Rhywbeth addfwyn iawn am ei ddehongliad o ganeuon Dafydd Iwan. Wedi bod yn canu "Gad fi'n llonydd, gad fi'n llonydd" rownd y ril ers nos Wener.
Set fi a Rhys yn iawn, am wn i...Y Barf yn eistedd tamed bach tu nol i fi felly do'n ni'n methu swingo a gwneud wynebe od at ein gilydd fel ry'n ni'n arfer, ond aeth y cyfan mlan yn eitha' neis, a tipyn o fynd ar y CDs wedyn. Tueddiad da fi i gyzlo'r gwin pan dwi ddim yn gyrru a siarad nonsens da Rhys yr holl ffordd adre ac ail adrodd pob un stori ni wedi adrodd wrth ein gilydd mewn siwrneiau car dros y 2 flynedd diwethaf. Erbyn fyddwn ni'n 30 fyddwn ni'n gwbod popeth sydd i wbod am ei gilydd ac fydd rhaid dechre neud pethe lan.
"Rhys, fi 'di gweud 'tho ti am y tro 'na es i'n styc dan y tren 'na a teithio i Prag gyda mwnci ar fy nghefn."
A phethau felly.
Gwd nawr.