Band: Radio Luxembourg
Sengl: 'Where is Dennis?'/ 'Cartoon Cariad'
Fformat: 7" nifer cyfyngedig/ Lawrlwytho
Dyddiad rhyddhau: 05/11/07
Label: Peski
Yn dilyn haf diflas arall mae'r tywysogion pop, Radio Luxembourg, yn carlamu tua'r machlud i'n hachub unwaith eto gyda'i hail sengl oddi ar y label eclectig Peski. Mae'r gampwaith hon gan y pedwar llanc o Aberystywth yn bot paent o liw sy'n glanio ar y glust yn sblash llachar o felodiau cyfoethog a synau dieflig.
Mae'r sengl Where is Dennis / Cartoon Cariad yn record dau drac ac un trac bonws, y cyfan i'w ryddhau ar feinl 7" nifer cyfyngedig. Bydd y caneuon hefyd ar gael i'w lawrlwytho. Er y natur ysgafn-lawen sydd nawr i'w ddisgwyl o ganeuon Radio Luxembourg, daw'r geiriau â chipolwg o rywbeth tywyll, mwy sinistr yn siffrwd o dan yr wyneb.
Agorir y sengl gyda Where is Dennis – hanes tywyll am anffawd bachgen ifanc dramor. Dywed y prifleisydd, Meilir Jones, "Mae'r gân yn rywfath o 'murder mystery' am fachgen ifanc, unig a thawel. Wrth i'r gân ddatblygu cynyddir yr ymdeimlad bod y bachgen ifanc hwn yn cam-drin neu'n lladd hen fenywod. Rwy'n meddwl i'r gân gael ei hysbrydoli gan Alfred Hitchcock a Syd Barret".
Cân bop annwyl yw'r ail drac Cartoon Cariad sy'n sôn am ddisgyn mewn cariad yn yr ysgol. Cafodd ei hysgrifennu tra'r oedd sawl aelod o'r band yn dal i fynychu'r ysgol. Mae'r trydydd trac Down by the Sand (ar gael ar 7" yn unig) yn gân glan-mor ddiniwed â recordiwyd yn ystod oriau mân y bore yn nyfnderoedd tywyllaf gogledd Cymru.
Crewyd y gwaith celf gan y feistres lliw Ruth Jen, â gydweithiodd â'r band yn ddiweddar yn cynllunio set lwyfan ar gyfer eu gigs byw dros yr haf.
Wedi ennill enw i'w hunain fel un o'r bandiau mwyaf cyffrous i ddod allan o Gymru ers tro mae'r grwp yn parhau i ennill clod. Yn ystod Ebrill 2007, i hyrwyddo ei EP diwethaf, Diwrnod Efo'r Anifieiliad, bu'r band yn teithio gyda'u cynhyrchydd a'u gwrw, Euros Childs, ac yn gigo o amgylch y wlad yn cynnwys chwarae ar lwyfan BBC Introdcuing g--yl Glastonbury. Maent wedi eu dewis i chwarae yn y BBC Electric Proms ar ddiwedd mis Hydref yn cefnogi Siouxsie Sioux, ac wedyn byddant yn teithio o amgylch Prydain gyda BBC Introducing a Radio 1.
GIGS:
10/11/07 – Gwyl Swn, Caerdydd
CYSYLLTU
E-bost: info@peski.co.uk
Gwefan: www.myspace.com/peskirecords // www.myspace.com/radiolux
------------------------------
SENGL AR FEINYL A LAWRLWYTHIAD AR GAEL DRWY RHAN FWYAF O SIOPAU, GAN GYNNWYS:
* www.sebon.co.uk
* www.kimberleyrecords.co.uk
* amazon
* iTunes