 |
Current mood:  hopeful Category: Music
Mae 2007 wedi dechrau, ac mae petha dal mor 'hectic' ag erioed arnom. Fe ddaru ni roi "kick-start" i'r flwyddyn wrth gynnal nosweithia yn Dinas Mawddwy a Trefor. Hefyd mae gig wedi cael ei gadarnhau ar Chwefror 17, yn Hafan y Mor - yr hen Butlins ger pwllheli!! A llawer mwy o berfformiadau ar fin cael eu cadarnhau.
Gan fod ambell i ddyddiau rhydd wedi bod 'leni - rydym wedi bod yn llenwi'r amser gyda chydig o waith hyrwyddo a pacio'r llyfrynnau mewn i glawr ein 7" feinyls newydd.
Rydym wedi diweddaru'r wefan yma, ac ein prif wefan (www.brigyn.com) i gynnwys lincs uniongyrchol i'r wefan iTunes, lle mae ein holl ganeuon hyd yn hyn, ar gael.
Ar hyn o bryd y top hits yw: Buta efo'r maffia Disgyn wrth dy draed Diwrnod Marchnad Hwyl fawr, ffarwel Os na wnei di adael nawr
Diolch i bawb sydd wedi mynd draw i iTunes i lawrlwytho ein caneuon!
Mae dechrau'r flwyddyn, o hyd, yn gyfnod creadigol - lle mae'r holl syniadau am ganeuon newydd yn mynd rownd a rownd yn ein pennau!
Mae gennym ni lawer o deitlau cwwwwl ar gyfer ein 'batch' o ganeuon nesaf - ond nawni'm datgelu dim eto. Hefyd... i unrhyw 'guitar enthusiasts sy'n darllen y rwtsh yma... falle sai'n ddiddorol son am 'tunings' gwahannol da ni di bod yn ei ddefnyddio i frwydro'n erbyn y felan...
For playing gigs in no-alcohol venues, tune to CAFFEE...?For busking, turn to BEGGED, ?Playing cumbersome guitar? Go BAGAGE?And if you are worn out, tune FADEDD.??Ond falle'r gorau hyd yn hyn ydi'r 'non-toxic' tuning = DECAFF
Ond er dweud huna, mae'r gitars i gyd yma heddiw wedi cael ei tiwnio'n ol i EADGBE er mwyn i ni allu cario ymlaen gyda'r demos ddaru ni gychwyn nol yn 2006!!
Mae llawer o bethau gwahannol ar y gweill 'leni:
a) mwy o gyd weithio a chyd-sgwennu b) trio mewn cystadleuthau c) remixes - ch) taith fechan i hyrwyddo y dair gan newydd sydd ar feinyls ac itunes a chaneuon newydd sbon.
Ac i orffen, rydym newydd glywed am ein enwebiad fel cyfansoddwyr y flwyddyn yng ngwobrau radio cymru 'leni.
Mae 2007 wedi dechrau'n dda - diolch i bawb sy'n dod i wylio'n gigs, prynnu'r miwsic ac sy'n gofyn am ein caneuon ar y radio.
Cyn ddiwedd chwefror bydd fideos newydd "maffia", "jericho", "ty bach twt" ac y cover o "hallelujah" ar ein gwefan ac ar youtube!
12:06 AM
Powered by  | | English | | Albanian | | Arabic | | Bulgarian | | Catalan | | Chinese | | Croatian | | Czech | | Danish | | Dutch | | Estonian | | Filipino | | Finnish | | French | | Galician | | German | | Greek | | Hebrew | | Hindi | | Hungarian | | Indonesian | | Italian | | Japanese | | Korean | | Latvian | | Lithuanian | | Maltese | | Norwegian | | Polish | | Portuguese | | Romanian | | Russian | | Serbian | | Slovak | | Slovenian | | Spanish | | Swedish | | Thai | | Turkish | | Ukrainian | | Vietnamese |
|